Dyma nodyn gan ein Cyngor Ysgol am y flwyddyn academaidd 2025-2026.
Llongyfarchiadau i bob un ohonynt am gael eu hethol gan eu dosbarthiadau!
Fi Llyr yw Cadeirydd Cyngor Ysgol Dolbadarn, Nel yw’r Is-gadeiryddes, Greta yw’r Ysgrifenyddes ac Iago yw’r Is-Ysgrifenydd. Dyma yw prif ddyletswyddau aelodau y Cyngor Ysgol.
- Bydd agenda (pwyntiau i’w trafod) ym mhob cyfarfod.
- Dyletswydd pob cynrychiolydd dosbarth yw trafod a chasglu syniadau y dosbarth ac yna eu rhannu yn y cyfarfod Cyngor Ysgol nesaf.
- Rydym yn ysgrifennu cofnod o bob cyfarfod ac yn llunio camau gweithredu.
- Mae gan bob aelod bleidlais.
Ein blaenoriaethau a chamau gweithredu am y flwyddyn nesaf yw:
- Perthnasu fwy gyda’r gymuned e.e cynnal gweithgareddau a gwadd aelodau o’r gymuned i weithgareddau yr ysgol
- Codi arian tuag at elusennau
- Helpu staff i ddatblygu dealltwriaeth o KiVa gyda pawb (rhaglen am fwlio)
- Datrys problemau y peli ar y buarth i hwyluso gemau a gwersi ymarfer corff