logo Ysgol Dolbadarn, Llanberis

Cymdeithas Rhieni, Athrawon a Chyfeillion Ysgol Dolbadarn

Swyddogion

  • Cadeiryddes: Mrs Kellie Evans
  • Ysgrifenyddes: Mrs Llinos Druce  
  • Trysorydd: Mr Rhys Ap Gwilym  

Nod y Gymdeithas yw   

  • Rhoi cyfle i rieni a staff gyfarfod er lles y plant a’r ysgol.    
  • I godi arian er mwyn sicrhau adnoddau ychwanegol ar gyfer gweithgareddau’r ysgol.    
  • I gefnogi ymdrechion y prifathro a’r llywodraethwyr i sicrhau gwelliannau yn ôl yr angen.    
  • I drefnu cyfarfodydd o ddiddordeb addysgol, diwylliannol neu gymdeithasol ar gyfer aelodau y gymdeithas, a disgyblion.    

 Anelir at drefnu rhaglen benodol o weithgareddau i bwrpas addysgol a chymdeithasol yn ogystal â chodi arian. Hyderwn yn fawr y byddwch yn gallu cefnogi’r Gymdeithas.