logo Ysgol Dolbadarn, Llanberis

Gwisg Ysgol

GWISG YSGOL

Yn dilyn cais gan y rhieni eu hunain, mae gan yr ysgol hon wisg ysgol swyddogol. Er nad oes gan yr ysgol yr hawl i orfodi plant i’w gwisgo teimlir fod gwisg ysgol yn arwain at feithrin balchder yn yr ysgol ac ymdeimlad o berthyn iddi. Yn ôl nifer o rieni y mae yn ffordd rwydd a rhesymol o ddilladu plant. Anogir rhieni, felly, i anfon eu plant i’r ysgol yn y wisg ysgol.

Y wisg yw:

  • Siwmper / Hwdi gwyrdd gyda logo’r ysgol arno
  • Crys polo glas tywyll gyda logo’r ysgol arno
  • Trowsus, siorts neu sgert las dywyll
  • Yn yr HAF – Ffrogiau gingam gwyrdd a gwyn

Mae’n bwysig bod plant yn gwisgo esgidiau neu drainers tywyll addas am eu traed.

Mae gwisg yr ysgol ar gael yn Siop 'Orchid Fashions', Caernarfon, hefyd mae modd archebu gwisg ar-lein gan 'Brodwaith'

GWISG YMARFER CORFF

Mae newid ar gyfer gwersi ymarfer corff yn rhan bwysig o addysg plentyn.

Byddwn yn gadael i chwi wybod am ddiwrnod/dyddiau y bydd eich plentyn yn cael gwers ymarfer corff. Ar gyfer hyn, bydd angen crys-t a siorts yn yr haf a thracwisg yn y Gaeaf.

Bydd plant yn gweithio’n droednoeth yn y neuadd, ond gall plentyn sydd ag anhwylder ar y croen wisgo pympiau ysgafn.   

Yn yr haf bydd gwersi yn cael eu cynnal ar y buarth a bydd angen pymps neu drainers ar gyfer y tymor hwn.  

Gellir gwisgo hen drainers neu esgidiau pêl droed i fynd ar gae y pentref (Adran Iau yn unig).  

Os yw disgybl yn dymuno cael ei esgusodi o wersi ymarfer corff am resymau meddygol, rhaid iddo gael nodyn gan ei riant (cais dros-dro) neu dystysgrif feddygol (am gyfnod estynedig neu barhaol).  

Os yw plentyn yn anghofio ei ddillad ymarfer corff yn aml, bydd yr ysgol yn cysylltu a chwi i'ch atgoffa o'r amserlen.

SICRHEWCH FOD ENW EICH PLENTYN AR BOB DILLEDYN, OS GWELWCH YN DDA

Mae hyn yn datrys nifer o achosion ble mae dilledyn wedi mynd ar goll neu wedi eu gadael yn yr ysgol. Mae llawer o gwmniau yn creu sticeri sydd yn hynod ddefnyddiol. E.e Personalised School Uniform Labels | Stikins ®