logo Ysgol Dolbadarn, Llanberis

Diogelu

Mae Ysgol Dolbadarn yn cydnabod yn llwyr y cyfraniad mae'n ei wneud i amddiffyn plant. Mae tair prif elfen i'n polisi:  

  • atal drwy'r gefnogaeth addysgu a bugeiliol a cynigir i ddisgyblion  
  • gweithdrefnau ar gyfer nodi ac adrodd am achosion, neu achosion posib o gam-drin. Oherwydd ein cysywllt o ddydd i ddydd â phlant, mae staff yr ysgol mewn sefyllfa ddelfrydol i weld arwyddion allanol o gam-drin,  
  • rhoi cefnogaeth i ddisgyblion sydd efallai wedi'u cam-drin yn y gorffennol.  

Mae ein polisi yn berthnasol i holl staff, llywodraethwyr a gwirfoddolwyr yr ysgol.

Bydd ein hysgol yn adolygu'r polisi'n flynyddol ac rydym yn ymrwymedig i ddilyn unrhyw arweiniad newydd.