logo Ysgol Dolbadarn, Llanberis

Presenoldeb a Phrydlondeb

Mae hi bellach yn hanfodol yn ôl gofynion y Ddeddf Addysg eich bod yn ein hysbysu am unrhyw absenoldeb gan gynnwys ymweliadau â’r meddyg neu’r deintydd.

  • Mae mynychu’r ysgol yn rheolaidd wedi bod yn bwysig erioed.  Heb hyn, bydd ymdrechion yr athrawon a’r ysgol yn ofer.   
  • Mae’n ddyletswydd gyfreithiol ar rieni i anfon eu plant i’r ysgol yn rheolaidd.  Mae rhieni sy’n methu a chyflawni’r dyletswyddau yma yn wynebu cael eu herlyn.   
  • Mae cyfrifoldeb rhieni yn ymestyn i sicrhau fod eu plant yn cyrraedd yr ysgol mewn pryd, yn daclus, ac mewn cyflwr i ddysgu.
  • Rhaid i’r ysgol ofyn am gymorth Swyddogion Lles Addysg a hysbysu’r Awdurdod Addysg leol pan yw presenoldeb afreolaidd disgybl yn achosi pryder.

Dylid cysylltu a’r ysgol drwy alwad ffon. Rydym yn gweithredu system gyswllt diwrnod cyntaf lle cysylltir a rhieni os nad ydym wedi derbyn gwybodaeth ynglyn ag absenoldeb.

Mae absenoldebau yn cael eu gosod mewn dau gategori – AWDURDODEDIG ac ANAWDURDODEDIG.  

Os bydd cyswllt bydd yr absenoldeb yn awdurdodedig.

Os na fydd cyswllt neu eglurhad dros yr absenoldeb, bydd yn cael ei nodi fel ‘Absenoldeb Anawdurdodedig’.

Mae’r gofrestr yn cael ei chau am 9.00 yn y bore.

Rhaid i unrhyw blentyn sy’n cyrraedd yn hwyr fynd i weld yr ysgrifenyddes; cedwir cofnod o blant sy’n cyrraedd ar ôl 8.45 o’r gloch y bore.   

Cyfrifir cyrraedd ar ôl cyfnod cofrestru fel absenoldeb anawdurdodedig.
 
CANIATAD MYND AR WYLIAU

Cyn trefnu gwyliau ar adeg ysgol dylai rhieni gael caniatâd yr ysgol i’w plentyn fod yn absennol o’r ysgol. Ceir ffurflen i wneud cais am fynd ar wyliau o’r gan yr ysgol.