Croeso i dudalen y Llysgenhadon Lles!
Mae’r Llysgenhadon Lles yn gynrychiolwyr sydd wedi eu hethol gan eu cyd-ddisgyblion er mwyn cyd-weithio i ddatblygu lles ar draws yr ysgol. Mae ganddynt ffocws benodol ar wrth-fwlio, iechyd meddwl a diogelwch ar-lein. Prif ddyletswyddau aelodau Llysgenhadon Lles yw:
- Bydd agenda (pwyntiau i’w trafod) ym mhob cyfarfod.
- Dyletswydd pob cynrychiolydd dosbarth yw trafod a chasglu syniadau y dosbarth ac yna eu rhannu yn y cyfarfod Llysgenhadon Lles nesaf.
- Rydym yn ysgrifennu cofnod o bob cyfarfod ac yn llunio camau gweithredu.
- Mae gan bob aelod bleidlais.
Ein nod:
- Sicrhau fod pawb yn hapus o fewn cymuned yr Ysgol
- Rhannu negeseuon positif ac ysbrydoledig gyda rhieni a chymuned Dolbadarn
Amcanion Llysgenhadon Lles:
- Hyrwyddo presenoldeb (targed ysgol o 95%)
- Cynorthwyo a threfnu gweithgareddau bore Llun Lles
- Trefnu diwrnodau allweddol yng nghalendr lles yr ysgol e.e. gwrth-fwlio
- Casglu tystiolaeth a rhoi Cynllun Ysgolion Iach Gwynedd ar waith.