logo Ysgol Dolbadarn, Llanberis

ADYaCh

Yn Ysgol Dolbadarn mae pob plentyn yn cael ei werthfawrogi fel unigolyn ac ymdrinnir â'i anghenion yn sensitif ac yn effeithiol. Credwn fod pob plentyn yn derbyn cwricwlwm eang, cytbwys a gwahaniaethol gan sicrhau bod hunan-barch a hyder yn cael eu cyfoethogi a bod agwedd gadarnhaol yn cael ei datblygu.

Mae Ysgol Dolbadarn wedi ymrwymo i gynhwysiad llwyddiannus disgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol. Yn ein hysgol, mae pob athro yn athro ar bob disgybl, gan gynnwys y rhai sydd ag ADY.

Yn Ysgol Dolbadarn, mae pob plentyn yn gyfartal, yn cael ei werthfawrogi ac yn unigryw. Ein nod yw darparu amgylchedd lle mae pob disgybl yn teimlo'n ddiogel ac yn gallu ffynnu. Byddwn yn ymateb i unigolion mewn ffyrdd sy’n cymryd eu profiadau bywyd amrywiol a'u hanghenion penodol i ystyriaeth.

Mae Ysgol Dolbadarn wedi ymrwymo i ddarparu addysg sy'n galluogi pob disgybl i wneud cynnydd fel ei fod yn cyflawni hyd eithaf ei allu, yn dod yn unigolion hyderus sy'n byw bywyd llawn ac yn pontio’n llwyddiannus i fyd oedolion.

Cydlynydd ADY (CADY)  – Mrs Siw Brookes  

Llywodraethwr Dynodedig Anghenion Dysgu Ychwanegol – Mrs Eleri Foulkes

Gwefan Gwasanaeth Anghenion Ychwanegol a Chynwysiad
•    Gwasanaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol a Chynhwysiad (ADYaCh) - Gwynedd ac Ynys Môn