Mae’r Clwb ar agor am 7:55y.b am ffi o £1.00 y sesiwn y plentyn. Mae disgownt ar gyfer teuluoedd o 3 neu fwy o blant cynradd. Mae angen archebu a thalu am y Clwb drwy 'School Gateway'. O fod wedi archebu sesiwn cyn-ysgol, bydd y disgyblion wedi cofrestru yn awtomatig ar gyfer derbyn brecwast am ddim.
Bydd y Clwb Brecwast am ddim yn agor am 8:15y.b. Nid oes mynediad i’r Clwb Brecwast ar ôl 8.25y.b.
Dylai pob plentyn sydd ddim yn mynychu y clwb brecwast gyrraedd tir yr ysgol ar ôl 8:35y.b. Bydd staff addysgu a chyfrifoldeb am eich plentyn o 8:35y.b ymlaen.
Mae'n ofynnol bod oedolyn yn casglu pob plentyn sydd yn y Meithrin i flwyddyn 2. Cofiwch gysylltu â ni a dywedwch wrth eich plentyn os oes newid i'r trefniant arferol.
Os digwyddir toriad teulu neu briodas, cofiwch gysylltu â'r ysgol i drafod unrhyw newidiadau o safbwynt casglu eich plentyn o'r ysgol.
Ni chaniateir i blentyn fynd o'r ysgol yn gynnar heb reswm dilys ac oedolyn yn ei gasglu o'r ysgol.
Hoffwn eich atgoffa na ddylai rieni barcio ar y llinellau ‘zig-zag’ melyn tu allan i’r ysgol. Gwerthfawrogwn be byddai rhieni yn cerdded eu plant i fyny Ffordd Capel Coch a Ffordd Tŷ-Du er mwyn diogelwch y plant. Cofiwch mae caniatâd i barcio yng Ngwesty’r Heights a Plas Coch.