logo Ysgol Dolbadarn, Llanberis

Lluniaeth

CINIO YSGOL

Ar hyn o bryd, mae cinio ysgol am ddim i holl blant ysgol cynradd.

Os oes gan eich plentyn unrhyw broblemau bwyta e.e. os ydyw’n araf iawn yn bwyta, neu bod problem deiet neu alergedd ganddo, a fyddwch cystal â gadael i ni wybod.  

Ceisiwch edrych ar y fwydlen gyda'ch plentyn i sicrhau ei fod/bod yn hoffi beth sydd yn cael ei gynnig. Mae'n bwysig fod pob plentyn yn cael digon i'w fwyta.

LLEFRITH GANOL BORE, FFRWYTHAU A PHOTEL DDWR

Ceisir annog y plant i fyw yn iach, felly ffrwythau yn unig a ganiateir amser chwarae. Yr ydym yn cynnig llefrith (1/3 o beint) i bob plentyn yn ystod amser chwarae bore. Mae croeso i'ch plentyn ddod a ffrwyth a photel o ddŵr i'r ysgol.

Cliciwch ar y linciau isod am y fwydlen diweddar

Am fwy o wybodaeth a bwydlen ewch i wefan Cyngor Gwynedd

TREFNIADAU AWR GINIO  

Mae dau eisteddiad cinio yn yr ysgol; Derbyn i flwyddyn 2 yn gyntaf a’r plant o flwyddyn 3-6 ar eu holau. Bydd y plant sydd yn dod â’u bwyd eu hunain yn ei fwyta yn yr ystafell fwyta gyda’r plant sydd yn cael cinio ysgol. Mae perthynas hwyliog rhwng ein disgyblion a’n staff goruchwylio a merched y gegin.  

Ni chaniateir i blant ddod â phethau da, diodydd ffisi, na diod mewn poteli gwydr neu ganiau yn eu bocs bwyd. Gall blentyn/plant newid o ginio ysgol i focs bwyd yn ddyddiol, nid oes angen rhybudd.

DIM CNAU YN YR YSGOL

Mae llawer o blant gyda alergeddau cnau ac ambell un angen triniaeth epipen os mewn cyswllt a chnau.