Swyddogion
Cymdeithas Rhieni a Chyfeillion Ysgol Dolbadarn
Croeso i unrhyw riant ddod i ymuno neu helpu y gymdeithas. Nod y Gymdeithas yw:
• Rhoi cyfle i rieni a staff gyfarfod er lles y plant a’r ysgol.
• I godi arian er mwyn sicrhau adnoddau ychwanegol ar gyfer gweithgareddau’r ysgol.
• I gefnogi ymdrechion y prifathro a’r llywodraethwyr i sicrhau gwelliannau yn ôl yr angen.
• I drefnu cyfarfodydd o ddiddordeb addysgol, diwylliannol neu gymdeithasol ar gyfer aelodau y gymdeithas, a disgyblion.
Anelir at drefnu rhaglen benodol o weithgareddau i bwrpas addysgol a chymdeithasol yn ogystal â chodi arian. Hyderwn yn fawr y byddwch yn gallu cefnogi’r Gymdeithas.